Iechyd
Cyfrifoldeb y cerddwr yw sicrhau ei fod/ei bod yn ddigon heini’n gorfforol i gymryd rhan yn y teithiau cerdded a ddewiswyd, a bod ganddynt ddillad ag esgidiau addas a phwrpasol.
Oed
Mae croeso i bob plentyn dan 14 oed ond mae’n rhaid i riant neu warchodwr dros 18 oed gadw cwmni iddynt.
Amser Cychwyn
Cyrhaeddwch y man cychwyn o leiaf 30 munud cyn amser cychwyn pob un daith gerdded ar gyfer cofrestru. Mae hyn yn hynod o bwysig ar gyfer teithiau cerdded sy’n cynnwys siwrne bws. Bydd y teithiau cerdded yn cychwyn ar yr amser a benodwyd – os yw’r cyfranogwyr wedi cyrraedd neu ddim.
Tywydd
Bydd arweinwyr y teithiau cerdded yn y man cychwyn beth bynnag y tywydd. Er hynny, mewn amodau tywydd eithriadol, efallai bydd angen newid trywydd y daith neu ganslo’r daith er mwyn sicrhau diogelwch y cyfranogwyr.
Cwn
Mae croeso i gwn ar rai teithiau cerdded mae yna symbol yn nodi hynny. Mae croeso i gwn ar y teithiau yma ond rhaid eu cadw ar dennyn byr bob amser.