Croeso!

 

Mae Prestatyn a Gallt Melyd yn eich gwadd i fynychu’n Gŵyl Gerdded Flynyddol fythol boblogaidd, sydd erbyn hyn yn ei chweched flwyddyn. Mae’r ardal yn le delfrydol i gerddwyr brwdfrydig ddechrau ohoni ar daith gerdded, a Phrestatyn oedd y dref gyntaf yng Nghymru i gael statws Croeso i Gerddwyr.

Unwaith eto byddwn yn cynnig tri diwrnod o gerdded a gweithgareddau’n ymwneud â cherdded a fydd yn rhoi’r cyfle ichi archwilio, dysgu mwy a mwynhau golygfeydd unigryw Prestatyn a Bryniau Clwyd.

Mae rhaglen y flwyddyn hon yn cynnig rhywbeth i bawb, o Daith Heriol Clawdd Offa 40 milltir i deithiau byrion ar themâu gwahanol. Thema gyffredinol 2010 yw Gogledd Cymru’r Canoloesoedd. Yn ogystal â hyn bydd arddangosfeydd, darlith ar thema benodol a chyflwyniad yn ein lleoliad canolog, Neuadd Uchaf yr Eglwys, lle gellwch eistedd, ymlacio a mwynhau lluniaeth ysgafn mewn caffi unigryw ei naws.

Grades and Symbols used on the Walks Pages

i gadw lle ffoniwch 01745 857185

Sponsors of this years Walking Festival