Mannau Cychwyn Y Teithiau

 

Mae’r rhan fwyaf o’r teithiau’n dechrau o Neuadd yr Eglwys Uchaf ym Mhrestatyn (cyfeirnod grid: SJ 067 828) Mae’n bosib cyrraedd y prif faes parcio cyhoeddus o’r Stryd Fawr, sy’n stryd unffordd. Wrth fynd ar hyd y Stryd Fawr edrychwch am siop Boots ar y dde. Trowch i’r chwith yma ac ar ôl rhyw gan metr trowch i’r dde ychydig cyn y llyfrgell gyhoeddus, gan ddilyn yr arwyddion i’r maes parcio. Rhaid talu i barcio yn y maes parcio isaf, ond mae’r un uchaf, sy ger Neuadd Uchaf yr Eglwys, am ddim.

Mae Pwll Cae Brics (cyfeirnod grid: SJ 014 802) yn ne Y Rhyl ac mae’n bosib cyrraedd fan hyn o gyfeiriad Rhuddlan ar yr A547 i gyfeiriad y gogledd gan deithio heibio parc manwerthu mawr ar y chwith. Wrth y gylchfan lle mae Tafarn Ffordd Derwen ar y chwith trowch i’r chwith i Ffordd Derwen ac mae’r giât sy’n arwain at faes parcio cyhoeddus Pwll Cae Brics yn syth ar ôl yr ysgol.

Traeth Barkby, Prestatyn (cyfeirnod grid: SJ068 839). Gan ddechrau o’r prif oleuadau traffig ar gyffordd Ffordd Bastion a Ffordd y Môr, ewch ar hyd ffordd yr arfordir i gyfeiriad y Fflint am oddeutu 500 llath. Cyn i’r ffordd droi i’r dde, trowch i’r chwith i Barkby Avenue a dilynwch y ffordd i’w phen draw. Yno fe welwch chi fynediad y maes parcio isaf. Parciwch yn fanno - mae’r peiriant talu yn ymyl adeilad y Clwb Hwylio.

I gyrraedd Tafarn yr Eagle & Child, Gwaunysgor (cyfeirnod grid: SJ 074 811) ewch i fyny Stryd Fawr Prestatyn. Pan gyrhaeddwch chi’r groesffordd ewch i’r Fforddlas a dilynwch y ffordd i’r top a rownd i’r dde. Ar ôl 200m trowch i fyny i’r chwith - bydd y ffordd yn serth ac yn droellog. Mae yna olygfan ar y chwith a maes parcio di-dâl yno sydd ond 500m o’r dafarn. Mae croeso i chi fynd yn eich blaen i’r pentref i weld lle mae tafarn yr Eagle & Child, ond does ond ychydig iawn o le i barcio yn ymyl y dafarn ac yn y pentref, felly peidiwch â pharcio mewn llefydd fydd yn peri trafferth i’r trigolion.

Mae Neuadd Tref y Fflint (cyfeirnod grid: SJ 244 731)ar yr A548 ger Gorsaf Rheilffordd y Fflint. O ddechrau ym Mhrestatyn ewch ar hyd yr A548 i gyfeiriad y Fflint ac wrth y goleuadau traffig sydd yn union cyn y parc manwerthu/siopa trowch i’r dde i lawr Ffordd Aber (A5115). Dilynwch y ffordd nes y gwelwch chi faes parcio (di-dâl) Canolfan Hamdden Y Fflint ar y chwith yn union cyn y goleuadau traffig. Mae Neuadd Tref y Fflint oddeutu 100 llath o’r maes parcio.